This will reset your referral and you will lose any answers you have already given.
Mae'r Gwiriad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref hwn yn hawdd i'w ddilyn ac wedi'i ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC), Mae Tân yn Lladd a Safelincs. Mi fydd yn eich arwain chi drwy'ch cartref un ystafell ar y tro a bydd y cwestiynau syml yn eich helpu i nodi peryglon tân wrth i chi fynd trwy'ch cartref.
Bydd yr offeryn yn cynnig awgrymiadau a chyngor ar y camau y gallwch eu cymryd i leihau'r peryglon hynny. Ar y diwedd, byddwch yn derbyn cynllun gweithredu diogelwch tân personol i helpu i'ch cadw chi a'ch cartref yn ddiogel rhag tân.
Er mwyn cael y cyngor gorau o gwblhau'r Gwiriad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref ar-lein hwn, rydym yn eich argymell i ateb y cwestiynau i gyd mor onest â phosibl a'ch bod chi, neu rywun ar eich rhan, yn mynd i mewn i bob ystafell i gwblhau'r adran berthnasol.
Dylai'r Gwiriad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref ar-lein hwn gymryd tua 15 munud i'w gwblhau.
Mae tua 35,000 tân mewn tŷ a thros 300 o farwolaethau'n gysylltiedig â thân ym Mhrydain Fawr bob blwyddyn.
Trwy ddilyn ein hawgrymiadau a'n cyngor gallwch leihau'r perygl o dân yn eich cartref.
Mae'r cyngor a roddir drwy gydol y system hon yn seiliedig ar yr atebion a roddwyd gennych a dylech ei ystyried yn ganllaw yn unig.
Gellir ond cynnig argymhellion awdurdodol ar ôl ymweld â'ch cartref.